
Mae gwefan Arsyllfa Dysgu a Sgiliau wedi derbyn gwobr ‘Hygyrch’ Ymddiriedolaeth Shaw. Mae hyn yn golygu bod pobl ag ystod eang o anableddau wedi cynnal profion trwyadl ar wefan Arsyllfa Dysgu a Sgiliau a’u bod wedi cael y wefan yn hygyrch.
Meddai Ymddiriedolaeth Shaw, ‘Rydym yn falch iawn bod eich gwefan wedi cyrraedd lefel uchel o hygyrchedd ac wedi derbyn graddfa ‘Hygyrch’ Ymddiriedolaeth Shaw. Rydym yn gwerthfawrogi eich ymrwymiad i sicrhau bod gan Arsyllfa Dysgu a Sgiliau wefan hygyrch, a’i bod yn gynhwysol ac yn hawdd ei defnyddio i bobl anabl.’ Mae Ymddiriedolaeth Shaw yn elusen genedlaethol sy’n darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl sydd o dan anfantais yn y gweithle oherwydd anabledd, iechyd gwael neu amgylchiadau cymdeithasol eraill. Cymeradwyir gwaith yr Ymddiriedolaeth gan Urdd Dylunwyr Gwefannau Hygyrch.
Mae Arsyllfa Dysgu a Sgiliau yn darparu cronfa ddata o wybodaeth ymchwil a dadansoddi o ran addysg, dysgu, sgiliau a’r farchnad lafur yng Nghymru. Bydd cyfle i ymwelwyr â’r wefan, www.arsyllfadysgu.com rannu gwybodaeth ac arferion da a chymryd rhan mewn fforymau ar ddadansoddi polisi.