
Clywodd cynrychiolwyr o ysgolion, awdurdodau lleol a’r sector ôl-16 beth mae’r fframwaith arolygu newydd yn ei olygu yn ymarferol mewn digwyddiad lansio a gynhaliwyd yn ystod yr haf. Amlinellodd Ann Keane, Prif Arolygydd EM, nodweddion allweddol yr arolygiadau arddull newydd i gynrychiolwyr a phwysleisiodd y pwysigrwydd a fydd yn cael ei roi i hunanarfarnu.