
Mae achosion o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn 47 o ysgolion Cymru wedi lleihau 89% ar gyfartaledd, a 100% mewn 9 o’r ysgolion – diolch i gyllid gwella diogelwch a roddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad. Yn 2007 cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad raglen o grantiau gwerth £12 miliwn, dros dair blynedd, i ddarparu chwistrellwyr dŵr mewn ysgolion a oedd mewn perygl o gael eu llosgi i lawr gan danau bwriadol.