
Ar y cyfan, gwelwyd cynnydd yn lefelau cymhwyster yng Nghymru yn 2008, yn parhau â’r cynnydd cyffredinol dros y blynyddoedd diweddar. Amcangyfrifwyd bod 14 y cant o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru heb gymhwyster, 1 pwynt canran yn llai nag yn 2007. Roedd gan 70 y cant o’r holl oedolion o oedran gweithio yng Nghymru gymhwyster lefel 2 neu uwch. Roedd y gyfran â chymhwyster lefel gradd (NQF lefel 4 neu uwch) yn 28 y cant.