
Heddiw [dydd Iau 16 Awst] llongyfarchodd Jane Hutt, y Gweinidog Addysg, fyfyrwyr Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru ar eu canlyniadau eithriadol. Dywedodd y Gweinidog:
Rwy'n hynod falch bod gwaith caled y myfyrwyr a'r athrawon ledled Cymru yn cael ei wobrwyo yn dilyn eu llwyddiant yn Niploma Uwch Bagloriaeth Cymru. Bob blwyddyn, mae'r nifer sy'n astudio ac yn cwblhau'r cymhwyster newydd cyffrous hwn yn cynyddu, ac eleni mae carfan olaf cynllun peilot ôl 16 y Fagloriaeth wedi gwneud camau breision pellach, wrth i ni baratoi ar gyfer cyflwyno'r cymhwyster yn gyffredinol o fis nesaf ymlaen.
Ers cael fy mhenodi'n Weinidog Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, rwyf wedi sylweddoli faint o waith caled sydd angen ei wneud i gwblhau cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Mae ennill y Diploma Uwch yn gamp, a dylai'r myfyrwyr, eu hathrawon, y darlithwyr a'r holl staff eraill a fu'n eu helpu deimlo’n falch iawn.
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster anodd iawn, ac mae'r ffaith bod UCAS wedi dynodi 120 o bwyntiau ar gyfer Tystysgrif Craidd Bagloriaeth Cymru fel rhan o'r Diploma Uwch, sy'n cyfateb i radd A mewn Lefel A, yn adlewyrchu hyn. Mae’n dangos ffydd UCAS yn y cymhwyster.
Bydd ymdrechion y myfyrwyr yn arwain at fanteision y maent yn eu haeddu. Bydd y sgiliau y maent wedi’u meithrin o fantais iddynt mewn Addysg Uwch, yn y gweithle ac yn eu bywydau personol.
Mae mwy a mwy o Sefydliadau Addysg Uwch a chyflogwyr yn sylweddoli bod cymhwyster Bagloriaeth Cymru'n cynhyrchu myfyrwyr sydd â'r sgiliau, yr agwedd a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer astudiaethau lefel uwch ac yn y gweithle. Mae hefyd yn cael ei gydnabod fwyfwy wrth gynnig lle mewn Addysg Uwch - ac rwy'n hyderus y bydd hyn yn parhau.
Er mwyn ennill Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru, rhaid i fyfyrwyr gwblhau cymhwyster Craidd gorfodol yn ogystal ag Opsiynau, sef o leiaf dwy lefel A TGAU neu gymhwyster cyfatebol. Mae pedair rhan i'r dystysgrif Graidd – y chwe Sgil Allweddol; Cymru, Ewrop a'r Byd; Addysg Gysylltiedig â'r Gwaith; ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol.
O'r 1317 o fyfyrwyr sydd wedi cwblhau'r rhaglen, mae 1063 wedi ennill y Dystysgrif Graidd a 964 wedi ennill y Diploma Uwch llawn.
Ychwanegodd y Gweinidog:
Wrth i ni baratoi ar gyfer cyflwyno'r cymhwyster yn gyffredinol, mae'r canlyniadau heddiw yn cadarnhau bod Bagloriaeth Cymru yn brysur ennill ei phlwyf. Mae'r nifer sy'n ei gwblhau ac yn llwyddo yn parhau i gynyddu a gallwn edrych ymlaen at fwy o lwyddiant wrth i'r cymhwyster ddod yn rhan o'r ddarpariaeth ddysgu 14-19 arferol.
Mae'n bwysig cofio hefyd mai un o'r gwahaniaethau mawr gyda Bagloriaeth Cymru yw hyd yn oed os nad yw myfyrwyr yn llwyddo i gwblhau holl ofynion y rhaglen, nad ydynt yn dod allan ohono gyda dim. Bydd llawer wedi llwyddo i ennill cymwysterau Opsiynol a Sgiliau Allweddol sy'n cael eu cydnabod mewn addysg uwch ac yn y gweithle, yn ogystal â datblygu ffyrdd newydd o astudio a gweithio a fydd o fantais iddynt beth bynnag fo'r llwybr y maent yn dewis ei ddilyn.
http://new.wales.gov.uk/news/ThirdAssembly/Education/2007/1751928/?lang=cy