
Yn ystod tymor yr hydref 2010, cafodd rhaglen Hyfforddiant ar gyfer Aseswyr Cymheiriaid ei chynnal gan ColegauCymru, ar ran yr Adran Addysg a Sgiliau. Nod yr rhaglen oedd rhoi gwybodaeth i staff o’r sector ôl-16 am fframwaith newydd Estyn, ac i annog darparwyr i weithio gyda’i gilydd ar brosesau hunanasesu a chynnal arolygiadau mewnol. Gall darparwyr gysylltu â ColegauCymru i ddod o hyd i unigolion addas o’r gronfa ddata i’w helpu i gael barn unigolion allanol wrth gynnal eu prosesau sicrhau ansawdd.