
Mae Jane Hutt, y Gweinidog Addysg, wedi estyn ei chefnogaeth i ddathliad a fydd yn para wythnos gyfan i gydnabod pwysigrwydd gweithwyr ieuenctid Cymru a'r grwpiau yn maent yn eu cynnal. Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid, sy'n cychwyn ar 1 Tachwedd, yn fenter sy'n cael cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rheolaidd yn y gymuned. Y gobaith hefyd yw y bydd yn perswadio rhagor o bobl i ddod yn wirfoddolwyr a gweithwyr ieuenctid. Eleni bydd dros 300 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ym mhob cwr o'r wlad i ddathlu'r wythnos.