
Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau, Lesley Griffiths, gynllun gwerth £7.5m i helpu dros 5000 o weithwyr yn y Gogledd i ddysgu sgiliau newydd a gwella cynhyrchiant yn y gweithle. Coleg Llandrillo Cymru fydd yn arwain cynllun Y Dyfodol.