
Cyhoeddodd John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, becyn cyllid gwerth £68 miliwn ar gyfer prentisiaethau a chynllun ProAct i roi cymorth i fusnesau, gweithwyr a dysgwyr. Mae ProAct yn rhoi cymorth i gyflogwyr a gweithwyr ymdopi â chwymp yn nifer yr archebion ac yn rhoi dewis amgen yn lle dileu swyddi trwy gyflwyno oriau gwaith byrrach a chynnal hyfforddiant ar y diwrnodau pan nad yw pobl yn gweithio.