
Bydd mwy na 12,000 o bobl ifanc ledled De-orllewin Cymru sy'n debygol o adael yr ysgol neu o roi'r gorau i'w cyrsiau addysg yn elwa cyn bo hir ar gynllun newydd gwerth £32 miliwn i wella'u cyfloedd o lwyddo yn y byd gwaith. Dyma fyrdwn y cyhoeddiad y mae'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, John Griffiths, wedi ei wneud. Bydd YMGYSYLLTU, menter gan Awdurdodau Lleol a cholegau Addysg Bellach, yn targedu pobl ifanc rhwng 14 a 16 oed sy'n wynebu anawsterau, er enghraifft, rhai sy'n tangyflawni neu'n absennol o'r ysgol. Mwy