
Cafodd unigolion, sefydliadau a chyflogwyr eu cydnabod am eu hymroddiad arbennig i ragoriaeth mewn datblygu sgiliau yn y Gwobrau Hyfforddiant Cenedlaethol a Phrentisiaeth Fodern 2009. Mae’r gwobrau, a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru’n rhoi llwyfan i Brentisiaid Modern, busnesi, darparwyr dysg a phrosiectau cydweithredol sydd wedi gwneud cyfraniad hynod i hyfforddiant.