
Gall darparwyr gael Rhifau Unigryw Dysgwr ar gyfer eu myfyrwyr sy'n ymgymryd â chymwysterau'r FfCC. Wedyn bydd cyflawniadau eu myfyrwyr yn cael eu cofnodi ar gofnod dysgwr electronig. Er mwyn derbyn Rhifau Unigryw Dysgwr ar gyfer eu myfyrwyr, mae’n rhaid i ddarparwyr gofrestru yn gyntaf fel Corff Cofrestru Dysgwyr efo’r Gwasanaeth Cofrestru Dysgwyr. Mae’r FfCC yn rhan o fframwaith ehangach, Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC).