
Mae Gweinidog Addysg Jane Hutt wedi cyhoeddi y bydd Addysg Uwch (AU) yng Nghymru yn cael ei thrawsnewid mewn modd radical. Mae'r Gweinidog wedi disgrifio newid sylweddol yn y modd y caiff £400m+ o gyllid blynyddol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i'r sector AU yng Nghymru ei wario er mwyn gwella effeithlonrwydd, ehangu mynediad, datblygu cysylltiadau cryf rhwng yr economi a darparwyr addysg uwch, ac i wella'r cyfleoedd i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.