
Ymwelodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews ag Ysgol Gynradd Alway yng Nghasnewydd i lansio Peilot Gliniaduron Cymru’n Un. Bydd y peilot yn cynnwys rhwydwaith o brosiectau lleol ledled Cymru sy’n rhoi gliniaduron i hyd at 1,200 o blant 10-11 oed o ysgolion yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a Dechrau’n Deg. Bydd pob prosiect yn canolbwyntio’n gryf ar ddysgu yn ogystal ag ar hyrwyddo cynhwysiant digidol.