
Ym mis Mehefin 2010, wedi cyhoeddi’r adolygiad o gost gweinyddu addysg, sefydlodd y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen er mwyn sianeli mwy o gyllid tuag at reng flaen addysg. Un awgrym yn yr adroddiad gwreiddiol oedd y byddai darparu addysg trwy nifer fechan o dimau o gonsortia rhanbarthol yn lleihau gorbenion ac yn gwella gwasanaethau. Mae’r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen wedi bod yn mynd â’r syniad hwn yn ei flaen gan weithio gydag awdurdodau lleol i sefydlu consortia rhanbarthol.