
Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddulliau Addysgu Digidol yn yr Ystafell Ddosbarth wedi bod yn gweithio ers mis Medi yn adolygu’r ffordd orau o ddefnyddio technoleg i wella profiadau dysgwyr, y cydweithio rhwng athrawon a pherfformiad yn gyffredinol. Yn unol â’r amserlen wreiddiol y bwriad oedd cwblhau’r adolygiad ym mis Ionawr 2012 ond mae’r Gweinidog wedi cytuno i ymestyn yr amserlen wreiddiol hyd at fis Mawrth er mwyn llunio adroddiad manylach. Mae Cadeirydd y Grŵp, Janet Hayward, yn chwilio am enghreifftiau o arferion da o ddefnyddio technoleg mewn ystolion a darlithfeydd all gael eu rhannu, ac o bosibl eu cynnwys, yn rhan o adroddiad terfynol y grŵp. Os hoffech gynnig enghreifftiau o’r fath a fyddech cystal ag anfon manylion cryno a gwybodaeth gyswllt i’r blwch negeseuon canlynol.
Y dyddiad cau ar gyfer anfon eich ymatebion yw 3 Chwefror 2012.