
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i wella safonau llythrennedd mewn ysgolion ac yn y gymuned ehangach. Mae hon yn flaenoriaeth allweddol ac i gefnogi hyn rydym wedi datblygu ymgyrch ‘Rho amser i ddarllen’ drwy barhau i godi ymwybyddiaeth ymhlith rhieni, teidiau a neiniau a gofalwyr o bwysigrwydd darllen.