
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn darparu grant penodol anghylchol o £0.5 miliwn i awdurdodau lleol iddynt allu ysgwyddo baich eu dyletswyddau o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008. Caiff hyn ei ariannu, o 2010/2011 ymlaen, fel rhan o setliad Grant Cymorth Refeniw llywodraeth leol.