
Datblygwyd y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn ymgynghoriad â chyfranddeiliaid allweddol. Mae’n gosod y weledigaeth ac amserlen weithredu ar gyfer gwireddu diwygio ar dair lefel. Diwygio ar dair lefel ydy’r holl gymuned addysg (ysgolion, awdurdodau Lleol a Llywodraeth y Cynulliad) yn gweithio ar y cyd ac mewn aliniad. Mae’r Fframwaith yn disgrifio’r nodweddion allweddol sydd eu hangen i adeiladu ar arfer da cyfredol a gwella dysgu a lles plant a phobl ifanc trwy Gymru, a chyfraniad pob partner i sicrhau hynny.