
Yn dilyn digwyddiadau llwyddiannus y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion/Estyn ym mis Hydref 2009, byddwn yn cynnal rhagor o ddigwyddiadau, ar sail ranbarthol, yn ystod yr wythnos 5-9 Gorffennaf 2010. Bydd APADGOS, ynghyd â CCAC, CLlLC ac Estyn, yn amlinellu sut y caiff y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion ei sefydlu ar draws y system addysg yng Nghymru o fis Medi 2010 ymlaen gan egluro beth y mae hyn yn ei olygu, ar lefel ranbarthol ac ar lefel ysgol.