
Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ehangu ac ymestyn y defnydd o wybodaeth ar y farchnad lafur ledled Cymru. Mae hyn yn un o gyfres reolaidd o erthyglau fydd yn ymddangos yng nghylchlythyr DYSG ac ar wefan yr Arsyllfa Dysgu a Sgiliau – http://www.learningobservatory.com
Mae astudiaeth ddiweddar yn ychwanegu at y dystiolaeth sylweddol sy’n dangos fod y rhan fwyaf o gymwysterau galwedigaethol yn cynyddu’r tebygolrwydd o gyflogaeth ac yn arwain at gynnydd sylweddol mewn cyflog.
Mae pob cymhwyster galwedigaethol yn cael eu cysylltu gyda chynnydd yn y tebygrwydd o gael cyflogaeth. Mae’r rhai gyda Lefel 3 NVQ 15 y cant yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth, a Lefel 2 13 y cant yn fwy tebygol, o’u cymharu â rhai gyda chymwysterau is.
Mae yna gyfartaledd o 20% o gynnydd cyflog wrth ennill Lefel 3 BTEC, 16% am Lefel 3 RSA, a 10% am Lefel 3 NVQ, mewn cymhariaeth ag unigolion tebyg gyda chymwysterau Lefel 2.
Mae’r cynnydd cyflog yn is am Lefel 2 – 12% am BTEC, 16% am RSA, a 1% am NVQ, o’u cymharu â rhai gyda chymwysterau is na Lefel 2.
Fe wnaeth yr astudiaeth hefyd edrych ar brentisiaethau yn Lloegr a dangos fod yna enillion cyflog cadarnhaol cryf– 22% am brentisiaeth Lefel 3 a 12% am brentisiaeth Lefel 2.
Mae’r manteision gydol oes yn deillio o brentisiaeth ar Lefelau 2 a 3 yn sylweddol iawn, sef rhwng £48,000 a £74,000 am brentisiaeth Lefel 2 a rhwng £77,000 a £117,000 am Lefel 3.
Mae’r manteision yn sgil NVQ yn amrywio’n helaeth yn ôl y sector. Mae yna hefyd lawer o amrywiaeth yn ôl galwedigaeth, gyda mwy o fanteision i’w gweld yn y galwedigaethau gyda sgiliau is.
Cynhyrchwyd yr adroddiad hwn gan yr Adran Fusnes, Arloesedd a Sgiliau ac mae ar gael yn:
http://www.bis.gov.uk/assets/biscore/further-education-skills/docs/r/11-1282-returns-intermediate-and-low-level-vocational-qualifications
Os oes gennych unrhyw sylwadau am y mathau o wybodaeth ar y farchnad lafur sydd yn ddefnyddiol i chi yn eich gwaith a sut y bu o fudd i chi, byddem yn falch clywed gennych. Ar gyfer hyn a mwy o fanylion am y prosiect Gwybodaeth ar y Farchnad Lafur cysylltwch â Rachel Stephens, Uwch Reolwr Polisi Sgiliau Llywodraeth Cymru yn rachel.stephens2@wales.gsi.gov.uk