
Ar hyn o bryd mae Rhaglen Cefnogi Sgiliau Allweddol Cymru, a grëwyd gan Dysg, yn arwain yr ymgyrch ar hyn o bryd i ddarparu canllawiau i ddarparwyr addysg a hyfforddiant er mwyn datblygu ac asesu Sgiliau Allweddol yn effeithiol ymhlith y rhai sy’n dysgu.
Mae’r chwe Sgil Allweddol yn perthyn yn agos i’r sgiliau generig a nodwyd yn arolwg SDC. Maent yn cynnwys cyfathrebu, cymhwyso rhif, technoleg gwybodaeth, gweithio gydag eraill, gwella eich dysgu eich hun a datrys problemau.
O’r 18 sgil gwahanol a nodwyd gan arolwg SDC 2003 yn rhai yr oedd angen eu datblygu mwy ymhlith gweithlu Cymru, gall pob un gael ei chysylltu â Sgil Allweddol gyfatebol.
Er enghraifft, mae ‘Addasrwydd neu Hyblygrwydd’ a nodwyd gan yr arolwg yn cael sylw gan bob un o’r Sgiliau Allweddol i ryw raddau. Mae cymhwyster sgiliau allweddol lefel 2 mewn Cyfathrebu yn gofyn i ymgeiswyr ddangos sut y gallant addasu eu harddull ysgrifennu i dasg benodol– gweithgaredd sy’n dangos sut maent yn gallu addasu.
Ar y llaw arall, mae sgiliau ‘Arweinyddiaeth neu Ysgogi’ â llawer o elfennau yn gyffredin â sgil allweddol ‘Gweithio gydag Eraill’, sy’n cynnwys deall yr hyn a olyga gweithio’n effeithiol gydag eraill a deinamig grลตp. Byddai sgiliau arwain yn gofyn hefyd am sgiliau ‘cyfathrebu’ da a sgiliau da ar gyfer ‘datrys problem- au’ – yn fwyaf priodol ar lefel 3 neu 4.
Mae’r cydberthynas agos hwn rhwng SDC 2003 a Rhaglen Cefnogi Sgiliau Allweddol Cymru yn rhoi tystiolaeth ychwanegol i Gydlynwyr Sgiliau Allweddol unigol i gefnogi eu galw am fwy o ganolbwyntio ar sgiliau allweddol mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru.
Yn ystod cyfarfodydd rhwydwaith ysgolion a cholegau ar draws Cymru mae Rhwydwaith Cyd-gysylltwyr Sgiliau Allweddol Ysgolion a Cholegau Addysg Bellach yn mynychu gweithdai SDC a gynlluniwyd er mwyn sicrhau bod pawb yn gwybod nid yn unig ymhle i gael y ffeithiau a’r ffigurau diweddaraf, ond hefyd sut i ddehongli a defnyddio’r wybodaeth hon i gael gweithlu medrus yng Nghymru.
Bydd y gweithdai hyn yn amlinellu hefyd mor bwysig yw sgiliau allweddol i wahanol grwpiau galwedigaethol a gwahanol sectorau a fydd yn galluogi athrawon a darlithwyr i dynnu sylw eu myfyrwyr at bethau o’r fath.
Dr Cheryl Morgan yw rheolwraig Rhaglen Cefnogi Sgiliau Allweddol Cymru, a sefydlwyd fis Rhagfyr 2000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a grëwyd i roi cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer gweithredu rhaglenni sgiliau allweddol.
Meddai Dr Morgan “Rydyn ni’n cysylltu’n rhaglen Sgiliau Allweddol yn agos â’r materion a godwyd mewn perthynas â Sgiliau Generig trwy SDC 2003. Mae canfyddiadau’r arolwg yn rhoi coel ar ein cynllun i godi proffil Sgiliau Allweddol yn y cwricwlwm cenedlaethol.
“Mae Sgiliau Dyfodol Cymru wedi’n galluogi ni i gyflwyno’r achos tros Sgiliau Allweddol yn fwy effeithiol trwy ddangos bod ar ddiwydiant angen i weithlu Cymru fod yn berchen ar y sgiliau hyn er mwyn gweithredu’n fwy effeithiol,” ychwanegodd.
“Mae’r arolwg yn dangos bod amrywiaeth o wahanol sgiliau yn hanfodol i sectorau penodol diwydiant ar draws Cymru. Y dasg ar hyn o bryd i Gydlynwyr unigol Sgiliau Allweddol yw cael datblygiad Sgiliau Allweddol mewn ysgolion a cholegau i gyd-fynd ag anghenion sgiliau generig diwydiant a chymunedau lleol.”