
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau fod y System Cynllunio ac Ariannu Genedlaethol yn cael ei hatal am y tro a dywedodd y byddem yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r system cynllunio ac ariannu ôl-16.
Mae'r adolygiad hwn wedi dechrau'n ffurfiol erbyn hyn. Rydym yn bwriadu annog cynifer o randdeiliaid â phosibl i gymryd rhan yn yr adolygiad. Nid ydym yn bwriadu cyhoeddi dogfen ymgynghori; yn hytrach, byddwn yn ymgynghori â chi drwy gydol yr adolygiad.
Os hoffech gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf, darllenwch ein llythyr i randdeiliaid neu ewch i'r tudalennau Ôl-16. I gael rhagor o wybodaeth neu i gysylltu â ni unrhyw bryd, anfonwch e-bost i'r mewnflwch Adolygiad o'r System Cynllunio ac Ariannu Ôl-16.