
O ddydd Llun 15 Chwefror, bydd Cyfarwyddwr Strategol Estyn, Ann Keane, yn ymgymryd â swydd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru nes y gwneir penodiad tymor hwy yn yr hydref. Dywedodd Ann Keane, “Mae’n anrhydedd ymgymryd â rôl y Prif Arolygydd ac rwy’n hyderus bod Estyn mewn sefyllfa gref i fynd ymlaen â’r gwaith da a gyflawnodd Dr Bill Maxwell yn ystod ei arweinyddiaeth.