
Estyn yn amlygu arfer orau wrth ddatblygu medrau darllen ac ysgrifennu ymhlith plant rhwng 7 ac 14 oed
Heddiw, mae Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, wedi cyhoeddi argymhellion ac arweiniad ar gyfer ysgolion a’u partneriaid ar sut i wella medrau darllen ac ysgrifennu disgyblion.
“Mae llwyddo mewn darllen ac ysgrifennu yn allweddol i ragolygon cyflogaeth disgyblion ac i ddyfodol Cymru fel gwlad sy’n dysgu. Er bod llawer o ysgolion wedi llwyddo i wella safon Cymraeg a Saesneg disgyblion, yr her yw lledaenu arfer orau yn ehangach ac yn fwy cyson er mwyn i ddysgu ac addysgu medrau darllen ac ysgrifennu ym mhob ysgol ledled Cymru cystal ag y gallant fod”, meddai Dr Bill Maxwell, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
http://www.estyn.gov.uk/press_releases/cy_pr193_02_reading_and_writing_skills.pdf