
Mae Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus sy’n ceisio barn am y newidiadau arfaethedig i’r ffordd y mae darparwyr addysg a hyfforddiant yn cael eu harolygu. Bydd adborth o’r ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i gynllunio fframwaith arolygu newydd a fydd yn cael ei roi ar waith yn 2010.
Mae’r cynigion a’r holiadur i’w cael ar wefan Estyn, neu, fel arall, mae copïau caled ar gael oddi wrth CRG Research Ltd (029 2034 3218). Bydd y cyfnod ymgynghori’n para am 3 mis o 14 Ionawr 2009 ymlaen. Gellir ymateb yn ddienw a chaiff yr ymatebion eu trin yn gyfrinachol.