
Mae'r Cod Ymddygiad wrth Deithio cyntaf i Gymru gyfan wedi'i gyhoeddi, a'i nod yw hyrwyddo ymddygiad da a gwella diogelwch disgyblion sy'n teithio i'r ysgol a'r coleg. Bydd y Cod yn dod i rym ar ddechrau tymor yr ysgol ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf ac mae’n cwmpasu pob dull o deithio, fel y bws, y trên, cerdded a beicio, sy’n cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion 5 - 19 oed.