
Os hoffech chi ddarllen y cylchlythyr yn Saesneg, cliciwch yma.
Bwriad y cylchlythyr yw adrodd ar ddatblygiadau polisi ym myd addysg a hyfforddiant ôl-14 yng Nghymru a Lloegr. Os hoffech chi roi sylwadau ar y cylchlythyr neu roi gwybod inni am faterion yr hoffech i ni eu trafod, cysylltwch â rhys.davies4@wales.gsi.gov.uk
Mae'r rhifau yn dangos gostyngiad mewn niferoedd dysgwyr ar draws pob sector (Sefydliadau AB, Dysgu yn y Gymuned AALl, a Dysgu Seiliedig ar Waith) rhwng 2005/06 a 2006/07. Roedd 297,890 o ddysgwyr yn dysgu gyda Sefydliadau AB, Dysgu Cymunedol neu ddarparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith yn ystod 2006/07, gostyngiad o 3.4 y cant ar 2005/06. Mwy
Mae Estyn wedi cyhoeddi adroddiad yn galw am drefnu bod mwy o gyrsiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar gael ar gyfer dysgwyr 14-19 oed. Mae’r arolygiaeth yn argymell y dylai ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant weithio gyda’i gilydd i wneud sesiynau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn fwy hygyrch i ddysgwyr. Datganiad i’r wasg a’r adroddiad llawn
Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn rheoli’r broses o gyflwyno Bagloriaeth Cymru yng nghyfnod allweddol 4 yn dda meddai Estyn, mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae dau ddeg un o ysgolion yn addysgu Bagloriaeth Cymru ar lefelau Sylfaen a Chanolraddol yng nghyfnod allweddol 4 fel rhan o brosiect peilot a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Datganiad i’r wasg, yr adroddiad ac Ymateb LlCC
Dyfarnwyd 41,150 o NVQs a 65,540 o VRQs yng Nghymru. Cynyddodd nifer yr NVQs a ddyfarnwyd yng Nghymru 4 y cant o'i gymharu â 2005/06 gan barhau'r duedd am i fyny ers 2001/02. Mwy
Mae "Ysgolion yng Nghymru: Perfformiad mewn Arholiadau” yn cynnwys gwybodaeth am berfformiad disgyblion yn ysgolion Cymru mewn arholiadau. Mwy
Sir Drefaldwyn oedd yr etholaeth a'r ganran isaf o ddisgyblion oedran ysgol statudol oedd a'r hawl i brydau ysgol am ddim gyda 9.3, a Merthyr Tudful a Rhymni a’r Rhondda oedd a'r ganran uchaf gyda 27.6. Mwy
Mae Gwobrau Prentisiaeth Fodern - Cymru 2008 yn awyddus i wobrwyo prentisiaid, darparwyr dysgu, colegau a chyflogwyr sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol at ddatblygu’r rhaglen Prentisiaeth Fodern yng Nghymru. Mae modd lawrlwytho ffurflenni cais ychwanegol drwy fynd i www.cymru.gov.uk/gwobraupf. Rhaid i bob cais gyrraedd erbyn 31 Gorffennaf 2008. Mwy
Mae angen hyfforddiant mewn swydd gwell ar athrawon gwyddoniaeth er mwyn gwella safonau i ddysgwyr 14-19 mlwydd oed, dywed adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn. Mae safonau yn is mewn gwyddoniaeth nag ydynt ym mron pob pwnc arall mewn ysgolion uwchradd, ac mae ansawdd addysgu mewn gwyddoniaeth hefyd yn waeth yn gyffredinol. Datganiad i’r wasg a’r Adroddiad llawn
Cyn bo hir, mae’n bosibl y bydd plant ag anghenion addysgol arbennig yn cael yr hawl i apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn erbyn penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan Awdurdodau Addysg Lleol (AALlau) am eu haddysg, dan gynlluniau i’w cyhoeddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mwy
Yn 2007 comisiynwyd Lifelong Learning UK (LLUK) gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) i gasglu data ar nodweddion gweithluoedd ac anghenion sgiliau cyflogwyr o sectorau gwasanaeth ieuenctid gwirfoddol ac a gynhelir yng Nghymru. Mwy
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn yn datgelu bod safonau mewn addysg gorfforol wedi gwella ym mron pob ysgol sydd wedi’u cynnwys yn y fenter hon ers cryn amser. Nod menter Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol yw codi safonau mewn addysg gorfforol. Datganiad i’r wasg a’r Adroddiad llawn
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
Vocational qualifications make a big difference to career prospects. That's the message from a survey by YouGov, released ahead of the first national celebration of vocational qualifications on 23rd July. Compared with people who have degrees, holders of vocational qualifications are half as likely to spend a long time looking for work and 23 per cent more likely to feel ready to work from day one. More
The Schools Secretary Ed Balls has announced plans for a major overhaul of how some of society’s most troubled and challenging young people are educated and how we can tackle poor behaviour at a much earlier stage. Ministers are determined to ensure that excluded youngsters do not end up in crime or unemployment. More
New figures on further education, work-based learning and Train to Gain in England 2006/07 have been published. Learners' success rates are high and continue to improve, showing FE colleges and work-based learning providers continue to serve both young people and adults well, said Skills Minister David Lammy. More
Teaching sustainability in schools can help bring the significance of climate change to life and show children that that they each have an important part to play in helping to protect the environment, according to the latest report by Ofsted, the Office for Standards in Education, Children’s Services and Skills. More
A new agreement between the Government and employers will deliver more skilled workers to do the jobs of the future in science, engineering and manufacturing technologies, Skills Secretary John Denham has announced. More