
‘Bydd yr Aelodau’n gwybod imi fod yn ystyried materion sy’n berthnasol i bolisi Dysgu Gydol Oes. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 12 Ionawr ynghylch swyddogaeth Gweinidogion Cymru wrth ad-drefnu ysgolion. Cadarnhaodd hwnnw mai ar ysgwyddau awdurdodau lleol y mae’r cyfrifoldeb am drefnu ac ad-drefnu ysgolion.’
Mae Estyn wedi lansio ei fframwaith arolygu newydd ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a’r sector ôl-16 yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod.
Tynnir sylw penaethiaid a phrifathrawon at y ffaith bod Llywodraeth glymblaid y DU wedi cyhoeddi ei bod yn fwriad ganddi adolygu’r drefn Fetio a Gwahardd a’r drefn sy’n ymwneud â chofnodion troseddol. Roedd y broses gofrestru wirfoddol dan y Cynllun Fetio a Gwahardd newydd i fod i ddechrau ar 26 Gorffennaf 2010, ond ni fydd yn mynd rhagddi bellach. Mwy. Caiff rhagor o wybodaeth ei hanfon atoch ar ôl i’r adolygiad ddod i ben.
Wrth i ysgolion ddechrau paratoi adroddiadau i rieni, atgoffir cydweithwyr y dylai ysgolion drin pob rhiant yn gyfartal oni bai bod gorchymyn llys yn cyfyngu ymarfer cyfrifoldeb rhieni rhiant unigol. Mae gan bob rhiant yr hawl i gael copïau o adroddiad ysgol eu plentyn. Mae gan rieni plant sydd dan 18 oed yr hawl i ofyn am, a chael mynediad i, gofnod addysgiadol eu plentyn yn yr ysgol. Cewch ganllawiau pellach: Cofnodion Addysgol, Adroddiadau Ysgol a’r System Drosglwyddo Gyffredin (2006) a Rhieni a Cyfrifoldeb Rhiant (2007)
Mae’r llyfryn diwygiedig - Pam y mae angen datblygu meddwl ac asesu ar gyfer dysgu - yn rhan o gyfres o ganllawiau er mwyn cynorthwyo ymarferwyr i gyflwyno dysgu ac addysgu o ansawdd uwch drwy ganolbwyntio ar ddatblygu meddwl ac asesu ar gyfer dysgu.
Yn dilyn yr argymhellion o’r Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb a’r Cynllun Gweithredu Ymddygiad a Phresenoldeb dilynol, rydym wedi cyflwyno Codau Presenoldeb newydd a rheoliadau ynghylch Cofrestru Disgyblion. Mae’r canllawiau newydd yn disodli Atodiad 4i o’r canllawiau Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion.
Ochr yn ochr â sgiliaucymru, mae’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn cynnal cynhadledd addysgol ar 17 Medi. Bydd y Gynhadledd yn canolbwyntio ar les emosiynol a chymdeithasol disgyblion, myfyrwyr ac athrawon yng Nghymru.
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg, wedi rhyddhau data ar nifer y dyddiau ysgol a gafodd eu colli y gaeaf diwethaf o ganlyniad i dywydd garw. Yn ôl yr ystadegau, a gafodd eu dychwelyd gan 20 awdurdod lleol, ar gyfartaledd, roedd ysgolion ynghau am oddeutu 4 diwrnod ysgol (8 sesiwn hanner diwrnod).
Wyddech chi fod eich ysgol yn gallu gwneud cais am arian drwy raglen 'Arian i Bawb' y Gronfa Loteri Fawr? Cynllun grantiau bach yw Arian i Bawb Cymru, sy'n dyfarnu symiau rhwng £500 a £5,000. Nod y rhaglen yw helpu i wella cymunedau lleol a bywydau'r bobl fwyaf anghenus.
Mae cystadleuaeth o'r enw Geir-IAU yn annog plant a phobl ifanc i gydio mewn beiro, nodiadur, recordydd sain neu gamera fideo er mwyn cofnodi'r pethau da y mae pobl o'u cenhedlaeth nhw yn eu gwneud gartref, yn yr ysgol ac yn eu cymuned.
Cynhyrchwyd cynnwys y pecyn hwn gan Wasanaeth Ymgynghorol Casnewydd mewn cydweithrediad ag ysgolion ac athrawon Casnewydd. Mae'r adnoddau eu hunain yn rhai unigryw a dyma'r tro cyntaf i adnodd addysgol gael ei gynhyrchu i'r Cwpan Ryder.
Nid yw taflen Llywodraeth Cynulliad Cymru "Llau Pen – Y Ffeithiau" ar gael ar ffurf copïau papur ar hyn o bryd ond gallwch lawrlwytho copïau PDF o’r wefan Diogelu Iechyd
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg, wedi lansio DVD newydd sy’n rhoi canllawiau arfer gorau i fodloni anghenion disgyblion o gefndiroedd lleiafrifol ethnig.
Comisiynwyd yr Uned Pobl a Gwaith gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ymgymryd ag arolwg o fwlio mewn ysgolion yng Nghymru. Roedd yr arolwg yn anelu at ddarparu tystiolaeth sylfaenol o fynychder a nifer yr achosion o fwlio ymysg disgyblion oedran ysgol gorfodol yng Nghymru.
Mae UNICEF UK yn helpu Cymru yn ei hymdrechion i gynnwys hawliau plant a phobl ifanc mewn deddfwriaeth arloesol.
Mae Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant, wedi cyhoeddi ei fwriad i greu sawl ardal “arloesi” yng Nghymru er mwyn adnabod modelau arferion gorau o gymorth i deuluoedd yn ein hymdrechion i helpu i godi plant a phobl ifanc allan o dlodi.
Mae’r ddogfen amgaeëdig yn rhestru dyletswyddau Awdudodau Lleol o dan Ddeddf Gofal Plant 2006. Mae'n rhoi arweiniad manwl ar asesu digonolrwydd gwasanaethau gofal plant.
(Yn anffodus, nid yw'r erthygl canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Herbert Thompson Primary School has won the opportunity for Wenlock, the London 2012 Olympic mascot, to visit Cardiff on Friday 2 July by entering a competition through Get Set – the official London 2012 education programme. Further information on the visits
Adnodd rhyngweithiol sydd yn seiliedig ar gyfrifon syml siop ysgol ac sydd yn cyflwyno elfennau sylfaenol taenlen gan gynnwys fformwlâu syml.
Cyfres o weithgareddau rhyngweithiol yn seiliedig ar gân a stori sydd yn cyflwyno geirfa a phatrymau iaith newydd i blant ifanc.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y diwygiadau arfaethedig i’r rheoliadau presennol sy’n rheoli gofal plant i blant o dan 8 oed. Diwedd y cyfnod ymgynghori yw’r 6 Medi 2010.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar gynigion i ychwanegu dau gategori newydd at y rhestr o bersonau nad ydynt yn athrawon cymwysedig ond a gaiff gyflawni ‘gwaith penodedig’ (h.y. addysgu) mewn ysgolion a gynhelir. Diwedd y cyfnod ymgynghori yw’r 10 Medi 2010.
Cyfrifiad Ysgolion, 2010: Canlyniadau Terfynol
Athrawon mewn Gwasanaeth, Swyddi Gwag ac Absenoldeb drwy Salwch, Ionawr 2010
Disgyblion sydd â Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, Ionawr 2010
Perfformiad mewn Asesiadau ac Arholiadau: Cymhariaeth gyda Lloegr a’i Ranbarthau, 2009
(Yn anffodus, nid yw'r erthygl canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Local Authority Budgeted Expenditure on Schools, 2010-11
Os oes diddordeb gennych mewn newyddion ar gyfer y sector ôl 11 oed, darllenwch gylchlythyr Dysg.
Blynyddoedd cynnar, cysylltiadau defnyddiol
Dyddiadau Tymor a Gwyliau Ysgol 2009-10
Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion
Cylchlythyr Cadwyn ar gyfer llywodraethwyr
Bydd y cylchlythyr nesaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi