
Bellach bydd mwy na 50,000 o ddysgwyr yn cael cyfle i fanteisio ar Gymhwyster Bagloriaeth Cymru ac mae hynny diolch i gyflwyno dwsinau o ganolfannau newydd ledled Cymru. Cyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg y bydd nifer y canolfannau sy’n cynnig Bagloriaeth Cymru yn cynyddu ym mis Medi 2010 o 167 i 217, gan groesawu tua 7,000 o ddysgwyr newydd.