
Mae’r arolwg diweddaraf o’r llafurlu yng Nghymru a’r DU - a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol - yn dangos fod nifer y bobl ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng eto, er bod cyfanswm y bobl ddi-waith yn y DU wedi cynyddu. Roedd ystadegau’r mis diwethaf yn dangos fod diweithdra a addaswyd yn dymhorol yng Nghymru wedi gostwng 1,000 o gymharu â’r chwarter blaenorol.