Diweddariad ar weithdai PISA
23.01.12
Dylai fod gan bob ysgol uwchradd yng Nghymru aelod o staff addysgu uwch sy'n ymwneud â datblygu'r defnydd o PISA a chwestiynau o fewn arddull PISA i gefnogi addysgu a dysgu yn eu hysgol.
Mae 46 ysgol wedi eu cofrestru ar y rhaglen ddatblygu ‘Datblygu Meddwl ac Asesu ar Gyfer Dysgu PISA’. Mynychwyd yr ysgolion yma eu sesiwn rhaglen gyntaf ym Medi 2011, bydd yr ail sesiwn ddatblygu yn y rhaglen yn cael ei gynnal ar;
- Consortia De-Ddwyrain Cymru: Dydd Llun, 6 Chwefror 2012 yn Swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd.
- Consortia Gogledd Cymru: Dydd Iau, 9 Chwefror 2012 yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno.
- Consortia Gorwel: Dydd Mawrth, 21 Chwefror 2012 yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth.
- Consortia Canolog: Dydd Iau, 23 Chwefror 2012 yn swyddfeydd ESIS, yn Ystâd Diwylliannol Trefforest, Trefforest.
Mae pob ysgol arall yn cael eu gwahodd i anfon cynrychiolydd i'r gweithdai dilynol un diwrnod;
- Consortia De-Ddwyrain Cymru: Dydd Mawrth 7 Chwefror 2012 yng Nghanolfan Cynadleddau YMCA, Casnewydd.
- Consortia Gogledd Cymru: Dydd Mercher, 8 Chwefror 2012 yn Venue Cymru, Llandudno.
- Consortia SWAMWAC/Gorwel: Dydd Mercher, 22 Chwefror 2012 ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin.
- Consortia Canolog: Dydd Gwener, 24 Chwefror 2012 yng Nghanolfan Cynadleddau Morgannwg, Prifysgol Morgannwg.
Os hoffech dderbyn gwybodaeth ymhellach, cysylltwch â’ch cydlynydd consortia rhanbarthol neu e-bostiwch ni at Asesu@cymru.gsi.gov.uk
< nôl