
Yn 2008/09, fe ymadawodd 333 o ddisgyblion 15 oed addysg llawn amser heb gymhwyster cydnabyddedig. Mae hyn yn is na’r cyfanswm am 2007/08 o 608. Ymadawodd 0.9 y cant o ddisgyblion 15 oed ag addysg llawn amser heb gymhwyster cydnabyddedig yn 2007/09, canran llai nag yn 2007/08. Gwelwyd canran uwch o fechgyn yn ymadael ag addysg llawn amser heb gymhwyster nag oedd o ferched: 1.0 y cant ac 0.8 y cant yn yr un drefn.