
Comisiynwyd consortiwm o dan arweiniad SQW Consulting i gynnal gwerthusiad cenedlaethol o'r rhaglenni Cymorth a Dechrau'n Deg a hynny dros gyfnod o dair blynedd. Mae'r broses werthuso yn ystyried pa mor effeithiol yw'r rhaglenni a chanfod effaith Dechrau'n Deg ar blant a'u teuluoedd. Mae'r adroddiad hwn yn cyfuno'r dystiolaeth o gyflawniadau'r ddwy raglen o ran eu strwythurau a'u prosesau cyflawni a'r manteision a grëwyd ganddynt. Mwy