
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) wedi ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru ac ers Mai 2011 Cymru yw’r unig wlad o fewn y DU i ymgorffori’r Confensiwn o fewn ei chyfraith ddomestig. Mae’n diogelu hawliau dynol pob plentyn o dan 18 oed. Beth am gynnal gweithgareddau yn eich ysgol i ddysgu am y Confensiwn i eraill? Mae digon o adnoddau ar gael ar wefan Llais Disgyblion Cymru a Gwneud Pethau’n Iawn.