
Mae Hyfforddiant ACT yn hyfforddi rhwng 600 a 700 o fyfyrwyr y flwyddyn yng Nghaerdydd a Phen-y-Bont ar Ogwr ar gyfer ystod o swyddi. O’r rhain mae traean mewn gwaith a’r ddwy ran o dair sy’n weddill yn ddiwaith ac yn ceisio cael gwaith amser llawn.
Nod ACT yw bod yr holl ddysgwyr yn cael gwaith amser llawn ar ôl eu hyfforddi.
Meddai Andrew Cooksley, Rheolwr gyfarwyddwr Hyfforddiant ACT: “Mae Sgiliau Dyfodol Cymru yn rhoi syniad da o ba sgiliau generig y mae ar gyflogwyr eu heisiau yn y gweithlu. Mae’n rhoi’r hyder i ni ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir ynghylch y sgiliau rydyn ni’n helpu’r myfyrwyr i’w datblygu trwy ein hyfforddiant.
“Rydyn ni wedi llunio gweithdai newydd i roi sylw i’r sgiliau sy’n angenrheidiol yn ôl yr arolwg er mwyn paratoi myfyrwyr ar gyfer y gweithle. Ers i ni fabwysiadu’r drefn hon, dangosodd ein gwerthuso bod nifer y bobl a gaiff waith tymor-hir o ganlyniad iw lleoliad gwaith trwy ACT, wedi cynyddu.
“Mae Arolwg Sgiliau Dyfodol Cymru wedi cyfrannu at gynnydd o 16% yn nifer y rhai sy’n dod o hyd i waith trwy roi gwybodaeth fwy cywir i ni ynghylch yr hyn y mae ar gyflogwyr ei eisiau. Gallwn roi gwybodaeth gliriach i’n myfyrwyr am y gwaith y bydd disgwyl iddynt ei wneud a’r sgiliau y bydd gofyn iddynt eu cael.
“Cryfhau y mae perthynas ACT gyda dysgwyr a chyflogwyr fel ei gilydd, gyda mwy o gwmnïau nag erioed yn dewis dychwelyd aton ni fel ffynhonnell hyfforddeion. Mae dysgwyr, sydd fel petaen nhw’n gwybod yn reddfol pan fo’n nhw’n cael hyfforddiant da, yn dod aton ni hefyd o’r Gwasanaethau Gyrfaoedd a thrwy gael eu cyfeirio gan ffrindiau.
“Cyn i’r wybodaeth hon fod ar gael, roedd canfod yn union yr hyn yr oedd ar gyflogwyr ei eisiau yn waith anodd eithriadol. Fe fydden ni’n siarad â chymaint o gwmnïau ag y gallen ni, ond fedrech chi byth fod yn siwr bod y sgiliau yr oedd arnyn nhw eu heisiau yr un fath â‘r rhai yr oedd ar gwmnïau eraill mewn sectorau eraill eu heisiau.
“Bellach, â darparwyr hyfforddiant yn cael eu cynnwys yn y bartneriaeth ar gyfer FSW 2003, mae’r ymagwedd gydlynedig yn talu ar ei chanfed. Gallwn elwa ar y manteision a ddaw yn sgîl ymgynghori ag ystod eang o gwmnïau, yn llawer mwy nag y gallen ni ei wneud ar ein pennau’n hunain fel darparwr hyfforddiant.”