
Cyrraedd y nod gyda £49m o gyllid
Mae menter £49 miliwn i helpu tua 30,000 o bobl ifanc yng Nghymru i wella eu cyfleoedd gyrfaol wedi’i chyhoeddi. Y nod yw targedu pobl ifanc 11 – 19 oed ledled Gorllewin Cymru a’r Cymoedd i’w helpu i greu dyfodol gwell a’u hatal rhag mynd yn bobl nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant.