
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, wedi cyhoeddi'r cynigion ar gyfer gwneud newidiadau i ddulliau cofrestru'r gweithlu addysg ehangach ar draws Cymru, a hynny er mwyn codi safonau proffesiynol. Ar hyn o bryd, dim ond athrawon cymwysedig sy'n gorfod cofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) a chael eu rheoleiddio ganddo. Fel rhan o'i gynllun gweithredu 20 pwynt i godi safonau addysg, mae Mr Andrews bellach yn cynnig ehangu'r gofyniad i gynnwys addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, cynorthwywyr addysgu ac o bosibl, gweithwyr ieuenctid a staff cymorth eraill.