Hafan
/ Newyddion / Cynllun Gweithredu Newydd Yn Mynd I’r Afael  Heriau Sgiliau A Chyflogaeth
Cynllun Gweithredu Newydd Yn Mynd I’r Afael  Heriau Sgiliau A Chyflogaeth
02.06.04
Mae’r Ddogfen Ymgynghorol ar Gynllun Gweithredu Sgiliau a Chyflogaeth 2004 wedi’i llywio’n uniongyrchol gan Arolwg Sgiliau Generig 2003 Sgiliau Dyfodol Cymru, ac mae’n dangos sut y caiff tystiolaeth o’r Arolwg ei defnyddio i lywio a dylanwadu ar ddatblygiad polisi.
Dywedodd y Gweinidog:
“Ceir achos economaidd a chymdeithasol enfawr ar gyfer gwella sylfaen sgiliau Cymru. Mae sgiliau yn llwybr i gyflogaeth sefydlog, cyflogau uwch, ffyniant tymor hir a mwy o hyder, lles a chydlyniad cymdeithasol.
“Cafwyd llawer o fentrau yn y gorffennol a oedd wedi’u hanelu at hybu lefelau sgiliau a chyflogaeth. Ond mae ein Cynllun Gweithredu Sgiliau a Chyflogaeth yn gosod fframwaith clir a chydlynus ar gyfer gweithredu gwirioneddol. Ac mae hyn wedi bod yn gatalydd i ymrwymo’n llwyddiannus ystod eang o fudd-ddeiliaid i weithio gyda’i gilydd ar draws yr agendâu dysgu ac economaidd.”
Mae’r Cynllun Gweithredu newydd yn symud ymlaen ac yn adeiladu ar y gwaith a ddechreuwyd yn y Cynllun gwreiddiol, a gyhoeddwyd yn 2002, o dan 4 prif adran.
- a. Gwella’r Mecanweithiau ar gyfer Datblygu Gweithlu
- b. Rhoi’r Sgiliau sydd eu Hangen ar gyfer Cyflogaeth i Weithwyr Newydd yn y Farchnad Lafur
- c. Gweithio gyda Chyflogwyr a Gweithwyr i Wella Sgiliau
- d. Cynorthwyo Mwy o Bobl i Sicrhau Cyflogaeth Gynaliadwy
Mae’r Cynllun yn ymgynghori ar ystod o fesurau sy’n gymysgedd o wella rhaglenni sy’n bodoli a chyflwyno syniadau newydd, ynghyd â threfniadau cydweithio ag asiantaethau allweddol megis ELWa, CCAUC, WDA, y Ganolfan Byd Gwaith, Gyrfa Cymru a’r Cynghorau Sgiliau Sector; ac â chyflogwyr ac undebau llafur trwy’r Concordat Sgiliau a Phartneriaeth Sgiliau Dyfodol Cymru. Mae’r cynigion yn cynnwys:
- Prosiect ar y cyd gyda’r Ganolfan Byd Gwaith i helpu pobl disygog i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd cyfleoedd cyflogaeth.
- Ymagwedd sectoraidd newydd i feithrin datblygiad sgiliau ar y rhwydwaith o Gynghorau Sgiliau Sector sy’n gweithredu yng Nghymru, a gefnogir gan ELWa trwy gytundebau sgiliau sector a chefnogaeth wedi’i thargedu ar gyfer sectorau allweddol o bwysigrwydd yng Nghymru.
- Arsyllfa Sgiliau newydd i greu deallusrwydd cyfunol ar yr economi, sgiliau’r farchnad lafur a dysgu yng Nghymru.
- Cynllun chwe phwynt i fynd i’r afael â Sgiliau Allweddol gan gynnwys ymgyrch hyrwyddo wedi’i hanelu at ddysgwyr unigol.
- Datblygu prentisiaethau cyfunol i alluogi pobl ifanc i gyfuno dysgu yn yr ysgol neu’r coleg â dysgu ymarferol yn y gweithle.
- Ymagwedd ar y cyd i gefnogaeth fusnes gan ELWa a’r WDA sy’n cyfuno cyngor busnes a datblygu rheolaeth.
- Cyflwyno pasbort sgiliau newydd ar gyfer hunanasesu a chofnodi sgiliau TG.
Gwahoddir ymatebion i’r ddogfen ymgynghorol erbyn 19 Gorffennaf. Bydd y rhain yn llywio fersiwn derfynol y Cynllun i’w gyhoeddi yn yr Hydref. Ar ôl cytuno arno, bydd Partneriaeth Sgiliau Dyfodol Cymru yn symud y cynllun yn ei flaen.
Gellir dod o hyd i’r ddogfen ymgynghorol yn: http://www.learning.wales.gov.uk/pdfs/seap-04-cons-e.pdf
< nôl