
Cyhoeddodd John Griffiths gynllun gwerth £14 miliwn sydd â’r nod o wella cyfleoedd gyrfa i 22,000 o bobl ifanc Rhondda Cynon Taf a’u hatal rhag bod yn economaidd anweithgar. Bydd y cynllun tair blynedd hwn, Adeiladu’r Dyfodol gyda’n Gilydd, yn targedu’r rhai rhwng 11 ac 19 oed ac yn cynnig cymorth dwys un i un ar gyfer y sawl sy’n cael anhawster gyda mathemateg a llythrennedd, yn ogystal ag opsiynau hyfforddi galwedigaethol i ieuenctid sy’n ei chael hi’n anodd dysgu trwy ddulliau academaidd traddodiadol.