
Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn amlinellu cynigion i ddiwygio Rheoliadau Arfarnu Athrawon Ysgol (Cymru) 2002. Yn dilyn adolygiad o'r trefniadau ynghylch Safonau Proffesiynol, Datblygiad Proffesiynol Parhaus a Rheoli Perfformiad, rydym yn awyddus i ddatblygu un system syml a chyson lle y mae safonau proffesiynol, rheoli perfformiad a datblygiad proffesiynol yn cydweithio.