
Mae'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, John Griffiths, wedi amlinellu'r camau breision sydd wedi'u cymryd o ran bwrw ymlaen ag agenda Weddnewid Llywodraeth y Cynulliad i foderneiddio addysg ôl-16. Wrth annerch cynhadledd genedlaethol ar y Gweddnewid, meddai'r Dirprwy Weinidog: "Dim ond os ydy pobl ifanc yn cael cynnig gwell cyfleoedd na'r cenedlaethau o'u blaen y gallwn ni ateb yr her o ddarparu sgiliau hir-dymor.