
Mae Jane Hutt, y Gweinidog Plant wedi cyhoeddi gwasanaeth Eirioli a Chynghori Cenedlaethol i blant a phobl ifanc, gyda chymorth £459,850 o gyllid newydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd y llinell gymorth y gyntaf o’i bath yn y DU i’w rhoi ar waith yn genedlaethol, a bydd yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc dderbyn cymorth ar faterion sy’n bwysig iddynt, os ydynt yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt neu nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Bydd y llinell gymorth ar gael drwy linellau ffôn am ddim, tecstio, e-bostio a negeseuon gwib am ddim.