
Mae’r deunyddiau dwyieithog hyn wedi’u cynllunio i gefnogi gwaith addysgu ac asesu o safon ym maes Cymraeg ail iaith. Yn benodol, eu nod yw cefnogi athrawon Blwyddyn 6 y bydd angen iddyn nhw asesu cyrhaeddiad dysgwyr mewn Cymraeg ail iaith ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2. Bydd copi yn cael ei ddosbarthu i bob ysgol uwchradd hefyd ar gyfer gwaith pontio Cyfnod Allweddol 2 a 3 a chymedroli clwstwr. Bydd yr adnoddau hyn yn cael eu dosbarthu i ysgolion mewn ffurf copi caled/CD ar gychwyn wythnos 14 Tachwedd 2011.