
Mae British Council Wales yn gwahodd ceisiadau ar gyfer rhaglen LIPD – Lecturers’ International Professional Development (Datblygiad Proffesiynol Rhyngwladol Darlithwyr). Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i ddarlithwyr a rheolwyr Addysg Bellach yng Nghymru i fynd ar daith i goleg mewn gwlad dramor, ar thema o’u dewis, i ddysgu oddi wrth arfer da. Gall ymgeiswyr ymgymryd â’r daith ar unrhyw adeg rhwng yn awr a Chwefror 2011.