
Mae'r papur cryno hwn yn seiliedig ar gasgliadau Arolwg Llais y Dysgwr 2008. Cymerodd dros 3,700 ran, sef disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 a Blwyddyn 12 a 13 sydd mewn darpariaeth a ariannwyd gan APADGOS. Edrychodd yr arolwg ar sawl agwedd ar brofiad dysgu disgyblion ac mae'r papur hwn yn canolbwyntio ar y casgliadau sy'n ymwneud â chyngor a chyfarwyddyd.