
Mae darparu sgiliau o’r radd flaenaf ar gyfer peirianwyr a gweithwyr adeiladu’r dyfodol wrth wraidd cynlluniau Llywodraeth y Cynulliad i greu economi gref, meddai Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn Wrecsam. Roedd yn y fwrdeistref er mwyn agor y Ganolfan Beirianneg ac Adeiladu newydd gwerth £5.2 miliwn yng Ngholeg Trydyddol Iâl. Mwy
Comisiynodd APADGOS raglen Dare Training i ddatblygu system fonitro y gall darparwyr ei defnyddio i werthuso effeithiolrwydd rhaglenni ysgogiadol o fewn y ddarpariaeth ddysgu ôl-16 a ariennir gan Lywodraeth y Cynulliad. Sefydlwyd grwp llywio o gynrychiolwyr darparwyr sy’n cynnig rhaglenni dysgu cyn-cofrestru i benderfynu ar y dull mwyaf priodol o gael gafael ar yr wybodaeth sy’n ofynnol. Mwy
Roedd Gwariant Adnabyddadwy Arfaethedig ar Wasanaethau yng Nghymru yn 2007-08 yn £8,577 y pen, 10 y cant yn uwch y pen na chyfartaledd y DU (£7,790 y pen). Yn 2006-07, roedd gwariant ar addysg 3 y cant yn uwch na chyfartaledd y DU. Mwy
Seilir y digwyddiad ar ganlyniadau adolygiad yr Academi o’r Strategaethau Dysgu ac Addysgu Cymraeg tair-blynedd newydd ar gyfer 2007/08 i 2009/10. Ceir cyfle i drafod arfer effeithiol a themâu sy’n dod i’r amlwg yn sefydliadau Cymru. Mwy
Mae’r siaradwyr gwadd yn cynnwys Syr Chris Humphries OBE, Prif weithredwr UK Commission for Employment and Skills; Syr Adrian Webb, Cadeirydd yr Adolygiad Annibynnol o Genhadaeth a Phwrpas Addysg Bellach yng Nghymru a John Griffiths AC, Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru Mwy
Mae'r Ganolfan Wybodaeth a Dysgu Hygyrch yn darparu hyfforddiant wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer sefydliadau led led Cymru, yn canolbwyntio ar hyfforddiant TGCh hygyrch yn ogystal â hyfforddiant Ymwybyddiaeth Weledol. Mae'r cyrsiau'n cynnwys: Cyflwyniad i TGCh Hygyrch/Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Weledol, Defnyddio Supernova, Defnyddio JAWS, Hygyrchedd y We ac E-bost ac Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Weledol. I archebu lle ar un o'r cyrsiau, ffoniwch 02920 449 557 neu e-bostiwch ALICenquiries@rnib.org.uk
Mae’r papur hwn (Ebrill 2008) yn amlinellu’r cynigion cychwynnol ar gyfer Fframwaith Ansawdd ac Effeithlonrwydd APADGOS ar gyfer dysgu ar ôl 16 oed yng Nghymru, a gaiff eu gweithredu o 2008/09 ymlaen. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad parhaus APADGOS i godi safonau ac ansawdd ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru, gan weithio gyda darparwyr addysg i adeiladu ar arferion da ac i fynd i’r afael ag anghysonderau mewn perfformiad. Mwy
Ar ddydd Iau aeth Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, i ymweld ag Ysgol Gyfun Treorci i weld menter addysg yn erbyn tanau glaswellt bwriadol ar waith. Bydd swyddogion yr Heddlu a swyddogion Tân yn cydweithio i annerch disgyblion Cyfnod Allweddol 3 mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru. Mwy
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
On 7 April 2008, the think tank Policy Exchange published a report (The labour market for teachers) which looks at the training and recruitment of primary and secondary school teachers. The report reveals that applications for secondary teacher training are falling. It predicts that recruitment targets for key subjects will not be met in 2008 including mathematics, science, modern foreign languages, geography and information and communication technology. More
A consultation to build stronger and more flexible links between business and universities was launched by Minister of State for Higher Education, Bill Rammell. The High Level Skills consultation will seek views from employers, students, colleges and universities on how to raise the skills of those already in work and also ensure graduates are equipped with the knowledge and abilities that businesses need to compete globally. More
Podium' is the Further and Higher Education Unit for the 2012 Games. The Unit has a nationwide remit and has two major aims. Firstly, to communicate both within the sector and with outside agencies about the potential for Universities and Colleges to support the successful staging and delivery of the 2012 Games. Secondly, to coordinate the development of activity within the sector that maximises the benefits of hosting the 2012 Olympic and Paralympic Games in this country, contributing to the building of a sustainable and wide reaching legacy. More
Career and educational development, accommodation and value for money were some of the key issues raised by university under- and postgraduates during five student juries, the results of which were recently published. More