
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn yn canolbwyntio ar y ffordd orau o roi dewis ehangach a hyblygrwydd astudio i ddysgwyr, yn unol â nodau menter Llwybrau Dysgu 14-19 Llywodraeth Cynulliad Cymru. Nod y fenter hon yw annog mwy o bobl ifanc i gyflawni eu potensial er mwyn iddynt fod wedi’u paratoi yn well ar gyfer byd gwaith a dod yn ddinasyddion mwy gwybodus a mwy gweithredol. Datganiad i’r wasg a’r Adroddiad llawn
Mae'r ddogfen hon yn ymgynghori ar Cymru, Ewrop a'r Byd: fframwaith i ddysgwyr 14-19. Mae'n Fframwaith anstatudol ar gyfer cefnogi dimensiwn Cymreig profiad dysgu pobl ifanc 14-19. Dylid anfon ymatebion i'r ddogfen ymgynghori ddrafft hon erbyn 30 Mehefin 2008. Mwy
Mae Jane Hutt, y Gweinidog dros Addysg, wedi hysbysu bod strategaeth wedi’i chyhoeddi i ddatblygu gwasanaethau cynghori mewn ysgolion ledled Cymru, gyda chefnogaeth gwerth £6.5m o gyllid yn ystod y 3 blynedd nesaf. Nod Llywodraeth Cynulliad Cymru yw cynnig gwasanaeth cynghori i bob disgybl, fel y bydd ganddynt rywun i droi ato os bydd angen help neu gefnogaeth arnynt. Mwy
Mae CCAUC wedi derbyn ei Lythyr Gorchwyl blynyddol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac wedi datblygu strategaeth Gorfforaethol CCAUC a'r Cynllun Corfforaethol a Chynllun Gweithredol 2007-08 hyd 2009-010. Mwy
Carfan blwyddyn 11: aeth 84 y cant i mewn i ryw fath o ddysgu parhaus mewn addysg, unai drwy addysg llawn amser neu hyfforddiant seiliedig ar waith a chefnogir gan y Llywodraeth (85 y cant yn 2006). Carfan blwyddyn 13: aeth 81 y cant i mewn i ryw fath o ddysgu parhaus mewn addysg, unai drwy addysg llawn amser neu hyfforddiant seiliedig ar waith a chefnogir gan y Llywodraeth (tebyg i 2006). Mwy
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Addysg heddiw [dydd Llun 17 Mawrth] fod cyllid gwerth £6m ar gael i gefnogi datblygiad proffesiynol athrawon i wella’r canlyniadau ar gyfer dysgwyr ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n annog y rheini yn y proffesiwn addysg i ddysgu mwy am ‘wyddor’ a sgil addysgu er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gorau o’u gwersi a’u profiadau dysgu mewn ysgolion ac mewn Addysg Bellach ac Uwch. Mwy
Wrth gymharu'r prif grŵpiau ethnig gwelir bod canran uwch o ddisgyblion o gefndir Tsieineaidd neu Tsieineaidd Brydeinaidd yn ennill y Dangosydd Pynciau Craidd (DPC) ym mhob Cyfnod Allweddol o'i cymharu â'r grŵpiau eraill. Mae canran y disgyblion ag anghenion addysgol arbennig sy'n ennill y DPC yn amrywio o bron i 47 y cant yng Nghyfnod Allweddol 1, i 10 y cant yng Nghyfnod Allweddol 4. Mae merched yn parhau i berfformio yn well na bechgyn ym mhob Cyfnod Allweddol. Mwy
Mae'r bwletin yma yn darparu diweddariad blynyddol o'r berthynas ystadegol rhwng y gyfran o ddisgyblion sydd â'r hawl i brydau am ddim a pherfformiad. Ar gyfer pob un o'r mynegai perfformiad a ddewiswyd, mae perthynas gref rhwng cyrhaeddiad a'r lefel o hawl i brydau am ddim; wrth i lefel yr hawl i brydau am ddim godi, mae lefel y cyrhaeddiad yn disgyn. Mwy
Mae angen gwelliant sylweddol ar bartneriaethau gwaith rhwng awdurdodau lleol a darparwyr sy’n addysgu dysgwyr sy’n byw mewn cartrefi plant, dywed adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Dywed yr adroddiad y dylai awdurdodau lleol chwarae rôl fwy cadarnhaol fel rhieni corfforaethol i sicrhau bod pob person ifanc yn cael yr addysg y mae ganddynt hawl iddi. Datganiad i’r wasg a’r Adroddiad llawn
Roedd cyfanswm o 6,130 o fyfyrwyr mewn Addysg Bellach wedi gwneud cais am GDC erbyn 5ed Mawrth 2008. Nifer y ceisiadau llwyddiannus oedd 4,970 (81 y cant o'r ceisiadau), cynnydd o 21 y cant i'w gymharu â'r un pryd yn 2006/07. Mwy
Adroddiad y Gweithgor Strategaeth TGCh ar gyfer Ysgolion i’r Llywodraeth Cynulliad Cymru. Sefydliwyd y gweithgor yn 2006 gan y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar y pryd i paratoi strategaeth i ddefnyddio TGCh i gweddnewid addysgu, dysgu ac effeithiolrwydd sefydliadol mewn ysgolion. Mae’r ddogfen hon yn nodi casgliadau’r gweithgor. Mwy
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
The proposals form part of a Qualifications Strategy for 14-19 year olds published for consultation which sets out plans to incorporate the very best of existing qualifications into four key national qualification structures: Diplomas; GCSEs and A-levels; Apprenticeships; and a Foundation Learning Tier of courses that act as a route into higher level qualifications. More
The vast majority of schools and colleges in England will offer Diplomas from September 2009, Schools Minister Jim Knight announced today. Around three quarters of secondary schools and 88% of colleges will teach Diplomas with the support of local universities and employers. More
The Government has set out the details of the transfer of £7 billion to local authorities to help colleges and sixth forms deliver the reforms needed to raise the education and training leaving age to 18. At the same time, Government will direct £4 billion a year through a new agency to provide training and skills for adults, transforming the system to be responsive and demand-led. More
The UK Commission for Employment and Skills – the new organisation tasked by the government with helping to ensure the UK's employment and skills systems contribute to the highest levels of productivity – has been launched. The establishment of the UKCES was a key recommendation of the 2006 independent report by Lord Sandy Leitch, 'Prosperity for all in the global economy – word class skills'. More
The Qualifications and Curriculum Authority (QCA) has today announced the second wave of employers to achieve awarding body status and that more than 30 employers have now taken advantage of new opportunities to have their training accredited nationally. More
This latest publication examines what the frequently used term ‘employability skills’ actually means to employers. This report examines the factors that define employability skills. Through survey research of 1137 UK employers, it explores how they perceive the current level of skills of young people entering their first job as well as the type of skills expected from these young workers. More and press release
-Report on awarding bodies' fees for the revised GCE A levels
-PKF Review of awarding bodies' fees executive summary
-Annual qualifications market report 2008
-Europe Economics report: Scoping exercise for a study of the efficiency of the qualifications system
-Information for centres on exam fees More
Ed Balls accepted recommendations from a top behaviour expert that all secondary schools should join behaviour partnerships and announced new plans for a White Paper to transform the alternative provision for pupils who have been excluded from school and announced plans to tackle cyber bullying of teachers. More