
Nid yw awdurdodau lleol ac ysgolion yng Nghymru yn gwneud y defnydd gorau o ddata sydd ar gael iddynt er mwyn helpu nodi a herio perfformiad gwael a rhannu arfer dda. Gallai defnydd mwy effeithiol o wybodaeth am berfformiad ym mhynciau’r cwricwlwm cenedlaethol a data sy’n helpu pob ysgol i gymharu eu perfformiad ag ysgolion tebyg eraill, helpu gwella safonau yn sylweddol. Mwy Yr adroddiad llawn
Mae’r erthygl hon yn crynhoi cymariaethau o Gymru gyda gwledydd eraill, sydd wedi eu llunio allan o ganlyniadau PISA 2006 ac adroddiad gan y Gyfarwyddiaeth Ystadegau. Mae Cymru yn y canol o ran y cyfraddau o bobl â chymwysterau trydyddol (lefel – gradd) ond hefyd mae gennym raddau eithaf uchel o bobl â chymwysterau isel. Mwy
Mae angen i ysgolion ganolbwyntio ar wella medrau llythrennedd bechgyn er mwyn cau’r bwlch rhwng lefelau cyrhaeddiad bechgyn a merched, meddai adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant. Mae adroddiadau arolygu ar gyfer ysgolion uwchradd yn dangos bod merched yn cael canlyniadau gwell na bechgyn mewn tua 85% o ysgolion. Mwy Yr adroddiad llawn
Adroddiad grŵp Cynghori'r Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar gyfer mis Ebril 2007 - Tachwedd 2007
Prif ffocws yr ail adroddiad hwn yw: adolygu strwythur Grwp Cynghori’r Gweinidog a’i weithrediad; adroddiadau cynnydd ar baneli arbenigol Grwp Cynghori’r Gweinidog, gan gynnwys y Cydbanel Cynghori ar Sgiliau; Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA); a Pherfformiad Addysgol mewn Ysgolion a Gynhelir. Mwy
A allwch chi hyfforddi pobl ifanc mwyaf medrus y DU i lwyddo yng Nghystadlaethau WorldSkills yn Calgary (2009) a Llundain (2011) fel Rheolwr Hyfforddi/ Arbenigwr WorldSkills gwirfoddol? Yn 2007 aeth UK Skills â thîm o 23 person ifanc medrus iawn i Gystadleuaeth WorldSkills. Mwy
Mae'r rhifyn yma o Newyddlen Cymru yn cynnwys cyfweliad gyda Syr Adrian Webb, erthygl ar Sgiliau sy'n gweithio i Gymru a gorolwg o ystadegau yng Nghymru. Yn ogystal ceir safbwynt coleg Addysg Bellach ynglŷn â sut i wella ansawdd a diweddariad ar y Gronfa Gwella Ansawdd. Llawrlwytho
Ydych chi’n athro, darlithydd neu hyfforddwr yn y gweithle? Ydych chi’n siarad Cymraeg yn weddol rhugl? Hoffech chi wella eich sgiliau iaith-Gymraeg? Os felly, efallai bod y cwrs iaith hwn, sy’n para 3 mis, yn addas i chi! Cynhelir yr hyfforddiant ym Mhrifysgol Bangor a Chaerdydd ym Medi 08, Ionawr 09 ac Ebrill 09. Cysylltwch â cynllunsabothol@cymru.gsi.gov.uk am ragor o fanylion. Mwy
Ar 29 a 30 Ionawr, yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod, cynhaliodd APADGOS Weithdy deuddydd ar Weithredu'r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, a llwyddwyd i ddenu dros 200 o gynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Roedd y gweithdai yn gyfle i'r cynrychiolwyr ddysgu mwy am y prosiectau y mae APADGOS yn eu datblygu Mae'r sleidiau a ddangoswyd yn ystod y cyflwyniadau, yn ogystal ag adroddiad cryno am y gweithdai ar gael. Mwy
The power of Government spending must be harnessed to create demand for new innovative products and services, concludes a White Paper published today. Innovation Nation sets out the Government's aim to make the UK the best place in the world to run an innovative business or public service. It argues that innovation is essential to the UK's future prosperity and the ability to tackle major challenges like climate change. More
Teaching young people to better manage their money can help prepare them for the world of bank accounts, credit cards, insurance and mortgages, according to the latest report by Ofsted, the Office for Standards in Education, Children’s Services and Skills. More
Policy and decision makers involved with the new Diplomas for 14 to 19-year-olds are invited to this one day conference to catch up at with the latest developments and challenges to successful Diploma delivery. More
Women reluctant to venture into male dominated work sectors should take heart from successful female role models as inspiration to take the plunge, according to the Learning and Skills Council. More
The Chancellor has announced an additional £60m of resources for DIUS over the next three years to provide new opportunities for adults to acquire the skills they need to unlock their talents. More