
Mae pobl yng Nghymru yn cael eu hannog i roi cynnig ar rywbeth newydd yn y Flwyddyn Newydd, a allai eu helpu i reoli eu bywyd a'u dyfodol eu hunain.
Fel rhan o gynllun gweithredu’r Gweinidog ar gyfer gwella ysgolion, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno model cenedlaethol ar gyfer CDPau. Mae’r model cenedlaethol wedi cael ei ddarparu i arwain ymarferwyr drwy’r broses o sefydlu a rhedeg cymuned ddysgu broffesiynol. Gall y cyfranogwyr sy’n defnyddio’r model cenedlaethol ymgysylltu a chydweithio â’i gilydd yn effeithiol, gan ganolbwyntio eu hymdrechion ar welliannau penodol yn eu hysgolion. Yn y pen draw, bydd y gwelliannau hyn yn codi safonau yn y tri maes blaenoriaeth ar gyfer ysgolion Cymru; llythrennedd, rhifedd a mynd i'r afael ag anfantais.
Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi fanylion grantiau cymell Llywodraeth Cymru a fydd yn berthnasol i gyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon ôl-radd yn y flwyddyn academaidd 2012/13.
Yn dilyn honiadau diweddar yn y Daily Telegraph ynghylch safonau arholi a hyder yn y system arholiadau, mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi y bydd arholiad TGAU CBAC mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, a fyddai wedi cael ei gynnal ar 17 Ionawr 2012, yn cael ei ohirio hyd fis Mawrth.
Mae ffurflen gais a’r canllawiau ar gyfer rhaglen CPCP 2011-2012 ar gael nawr yma.
Mae'n wych aros ar ben y tueddiadau economaidd diweddaraf, ond hyd yn oed yn well i fod ar y blaen iddynt a gweld i ble mae'r farchnad lafur yn mynd, nid dim ond ble mae hi heddiw. Mae Working Futures 2010 - 2020 yn gwneud yn union hynny… Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ehangu ac ymestyn y defnydd o wybodaeth am y farchnad lafur (LMI) ar draws Cymru. Dyma'r trydydd mewn cyfres o erthyglau.
Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu cyfres o gynadleddau ‘Codi Safonau Ysgolion’ ledled Cymru. Pwrpas y digwyddiadau hyn fydd i gyflwyno i ymarferwyr y cynnydd sydd wedi digwydd ers 2 Chwefror 2011 pan fu’r Gweinidog yn cyflwyno ei gynlluniau i Godi Safonau Ysgolion. Bydd y cyntaf yn y gyfres o ddigwyddiadau yn cymryd lle ar 8 Mawrth 2012 yng Nghanolfan y Cenhedloedd yng Nghaerdydd. Leighton Andrews, Gweinidog Addysg a Sgiliau fydd y prif siaradwr yn y digwyddiad yma. Bydd tair cynhadledd arall yn cymryd lle yn ystod mis Mawrth: 13 Mawrth, Parc y Scarlets, Llanelli; 19 neu 20 Mawrth (i’w gadarnhau) Merthyr Tudful a’r 28 Mawrth, Venue Cymru, Llandudno. Byddwch cystal ag e-bostio i gofrestru’ch diddordeb mewn mynychu un o’r digwyddiadau.
Pwrpas yr arweiniad anstatudol hwn yw helpu penaethiaid a chyrff llywodraethu i egluro’u polisïau ar godi tâl a pheidio â chodi tâl am weithgareddau ysgol ac ymweliadau ysgol.
Mae’r canllaw i lywodraethwyr yn canolbwyntio ar rôl a chyfrifoldebau clerc corff llywodraethu.
Cynhelir cynhadledd gyntaf Cyfeiriadau'r Dyfodol - Graddedigion ar gyfer Ein Dyfodol ar 26 Ebrill 2012 ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam. Diben y gynhadledd fydd arddangos a dathlu thema gwella ansawdd, sef y thema gyntaf ar gyfer Cymru gyfan - Graddedigion ar gyfer ein Dyfodol, ac mae iddi dri llinyn gwaith: Myfyrwyr fel partneriaid; Dysgu mewn gwaith; a Dysgu ar gyfer gwaith.
Cyfraddau Llwyddiant Fframwaith Rhagamcan Prentisiaeth, 2010/11
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
In the context of a difficult 2011 labour market, this report examines the early educational and labour market transitions made by young people, age 16/17 through to age 18/19.
This report gives an overview of the existing evidence base on class size and education in England. In particular, it considers how class sizes have changed over time; and the impact of the increase in birth rate on pupil numbers and how this could affect the teacher requirement and class sizes; and the impact of class size on educational outcomes.